Sermon
Episode 112: "Gwladwriaeth lês Duw - bwyd i'r bol a bwyd i'r enaid": Neges o Ruth 2 gan Rhys Llwyd
Publisher transcript
Transcript
-
Cyfres Ruth
-
Rhan 6 Ruth 2
-
Cyflwyniad a re-cap
-
Dyma hen hen hanes sy'n adrodd am fywyd a taith ffydd Naiomi a Ruth. Dyma hanes am bobl sy'n dysgu dewis ffydd dros ofn a hynny pan mae eu byd i weld yn cwympo'n ddarnau o'u cwmpas. Dyma hanes am ymwneud Duw gyda Naiomi a Ruth. Dyma hanes am oleuni a gobaith Duw yn torri trwy y tywyllwch mwyaf. Dyma hanes sy'n ein dysgu ni fod Duw yn dod a gobaith i wraig o Fethlehem a Moab run fath.
-
Dyma hanes sy'n ein dysgu fod Duw yn cymryd ochr y tlawd, y newynog, y ffoadur a merched dros y byd sy'n ddioddefwyr i batriarchiaeth. Dyma hanes sy'n gorfodi dynion i weld ein hagwedd meddwl o drin merched yn israddol am beth yw e – sef pechod.
-
A dyma hanes – yn y diwedd – sy'n ein gorfodi ni weld sut mae yr un themâu yn amlygu ein hunain mewn cymdeithas heddiw. Dyma hanes sy'n herio yr eglwys i ddangos gobaith yn yr un ffordd a mae Duw, trwy Boas, yn dod a gobaith i'r sefyllfa yma. Ie – dyma hanes taith Naiomi a Ruth gyda Duw – ond dyma hefyd ddrych falle o daith ffydd ein bywydau ni.
-
Lloffa
-
Erbyn y pwynt yma yn yr hanes mae Naiomi a Ruth wedi cyrraedd Bethlehem. Mae Naiomi wedi cyrraedd adref ac mae Ruth yn cychwyn cyfnod o fyw fel tramores mewn gwlad newydd. Ond er fod Naiomi yn dod adref – doedd hi ddim yn dod adref i unrhywfath o ddiogelwch oherwydd ei bod hi yn ferch ac yn weddw mewn cymdeithas ofnadwy o batriarchaidd.
-
Ond mi oedd gan Israel rai pethau mewn lle yn eu deddfau er mwyn rhoi cymorth i'r tlawd, y gweddwon, yr amddifad a'r ffoaduriaid i ofalu am eu hunain. Ac un o'r deddfau yma oedd deddf y llofa rydym ni'n gallu darllen amdano yn Lefiticus:
-
Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A phaid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi'i adael ar ôl. Paid casglu'r grawnwin sy'n dy winllan i gyd. A phaid mynd drwy'r winllan yn casglu'r ffrwyth sydd wedi disgyn ar lawr. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, ac i'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di. (Lefiticus 19:9-10)
-
Y ddeddf yma ac rhai tebyg oedd gwladwriaeth lês Israel. Ac roedd hwn yn un ffordd oedd yn gwneud cenedl Dduw yn wahanol i lawer o'r cenhedloedd o'u cwmpas.
-
A'r rheswm mod i'n codi hyn yw oherwydd fod hwn yn un maes hefyd lle y dylai Cristnogion fod yn wahanol ac arwain ynddo. Sut mae cymdeithas yn trin y gweddwon, y tlawd, yr amddifad a'r tramorwyr yn ein plith? Mae Cristnogion wedi arwain gyda hyn, a dylem ni barhau i wneud hynny.
-
Cywilydd
-
Er fod y ddeddf yn darparu ar gyfer pobl fel Naiomi a Ruth. Er fod hawl cyfreithiol ganddyn nhw loffa a chael cyfle i gasglu ychydig o fwyd. Doedd hynny ddim yn golygu eu bod nhw'n rhydd ac yn saff – ddim o gwbl. Roedd yna rhyw fath o gywilydd cymdeithasol ynghlwm a gorfod mynd i loffa am eich bwyd.
-
Os oeddech chi'n mynd i loffa roeddech chi wedi tarro'r gwaelod go-iawn oherwydd roedd eich angen am fwyd yn fwy na'ch synnwyr o hunanbarch. Oherwydd drwy fynd i loffa o flaen pawb roedde e'n ddatgeliad cyhoeddus o'ch tlodi – ac roedd stigma a chywilydd cymdeithasol yn dod gyda hynny.
-
I rywun fel Naiomi, oedd yn arfer bod yn aelod parchus o'r gymuned yn Bethlehem, mi fyddai anfon ei merch-yng-nghyfraith allan i loffa yn ergyd mawr i'w synnwyr hi o hunan barch.
-
Urddas pobl yn bwysig
-
Mae'r gymhariaeth gyda rhai problemau mae ein cymdeithas heddiw yn ei wynebu yn amlwg iawn. Er fod y wladwriaeth lês ddim yr hyn dylai fod – i gymharu a llawer o wledydd mae traddodiad cryf gyda ni ers yr Ail Ryfel Byd o gynnal gwladwriaeth lês er mwyn cynnal y tlotaf mewn cymdeithas.
-
Lle bo'r wladwriaeth lês yn methu mae elusennau ac eglwysi wedi camu mewn i ddarparu gwasanaethau fel Y Banc Bwyd. Ac mae pethau fel y wladwriaeth lês, ac gwasanaethau fel y Banc Bwyd yn gallu mynd i'r afael ac anghenion materol a thymor byr pobl. Ac mae'n gywir ac yn Feiblaidd i Gristnogion ac Eglwysi daflu eu hunain mewn i gefnogi pethau fel hyn.
-
Ond fel yn amser Ruth a Naiomi – roedd y deddfau lloffa Moses fod i atal pobl rhag llwgu yn llythrennol. Ond eto, dim ond hanner y stori oedd hynny. Roedd pobl ddim wirioneddol yn rhydd os oedden nhw yn gorfod dibynnu ar hand-me-downs gan eraill. Doedd pobl ddim wir wedi eu hadfer os nad oedd eu hurddas fel pobl yn cael ei anrhydeddu eto.
-
Yr Efengyl yn delio gyda'r gwraidd nid jest yn symptom
-
A dyna pam mae mor bwysig ein bod ni fel Cristnogion ac Eglwys yn sylwi fod yr alwad i warchod, siarad dros a darparu i'r tlotaf mewn cymdeithas wastad yn gorfod dod law yn llaw a'r alwad i ddweud wrth fyd a pobl bregus fod yna Dduw sydd yn eu caru ac sy'n dymuno adfer urddas yn eu bywyd. Lle mae cymdeithas falle yn dweud fod rhywun yn ddi-werth – mae Duw yn dweud wrth bawb eu bod nhw'n werthfawr ac wedi eu creu yn hardd ar ei lun a'i ddelw ei hun.
-
Dyma pam – dwi wedi fy argyhoeddi ers blynyddoedd fod yr efengyl Gristnogol yn rhywbeth rydym ni fod i'w rannu mewn gair a gweithred. Mae gyda chi rai traddodiadau Cristnogol yn pwysleisio dangos cariad Duw mewn gweithredoedd. Yn hanesyddol roedd y traddodiad yma yn cael ei adnabod fel “Yr Efengyl Gymdeithasol” Traddodiadau eraill yn pwysleisio'r gair. Mewn rhai cylchoedd roedd hyn yn nodweddu Cristnogaeth “efengylaidd”.
-
Ond dydym ni ddim wir yn gweld y binary choice yna yn y Beibl ac yn arbennig yng ngweinidogaeth Iesu a'r Eglwys fore. Mae'r genhadaeth Gristnogol yn delio ac angen materol ac ysbrydol rhywun.
-
“Evangelicalism divorced from radical and wholehearted social responsibility will fail and will deserve to fail.” D. Densil Morgan, Span of the Cross
-
Dydy Cristion sy'n rhoi taflen yn sôn am y neges Gristnogol i berson llwglyd heb hefyd roi pryd o fwyd i'r person yna ddim yn gwneud cyfiawnder ag efengyl Iesu Grist. Yn yr un modd ac nad ydy eglwys sy'n bwydo'r tlawd heb ddelio yn ogystal a beth sydd wrth wraidd problem tlodi ddim yn gwneud cyfiawnder ag efengyl Iesu. Yn hanes Naiomi a Ruth mae eu hangen materol yn cael ei ddelio ag e – ond wedyn mae eu hurddas hefyd yn cael ei adfer.
-
Rhagluniaeth Duw yn hanes Ruth a Naiomi
-
Yn y bennod yma mae Boas yn dod mewn i'r stori. Dyn oedd yn gymharol gyfoethog, llwyddiannus, dyn o statws. A'r cwestiwn mae unrhywun sydd mewn pŵer a statws yn ei wynebu yw hyn: beth i wneud gyda'ch pŵer a'ch statws? Mae yna ymadrodd Saesneg: “With great power comes great responsibility.”
-
Yr arfer ar y pryd yn y gymdeithas batriarchaidd yma oedd i ddynion mewn pŵer gymryd mantais o'u sefyllfa er eu budd eu hunain. Ond roedd Boas yn wahanol – nid yn unig ei fod wedi caniatáu i Ruth loffa yn ei gaeau (wedi'r cyfan, fel dyn crefyddol barchus roedd rhaid iddo wneud hynny) ond fe aeth yr ail-filltir a sicrhau ei diogelwch.
-
Ac nid cyd-ddigwyddiad oedd hi mae yng nghae Boas yn landiodd Ruth fyny yn Lloffa. Na – oherwydd roedd yna gymeriad arall ar waith yn yr hanes yma sef Duw ei hun. Roedd Duw wedi arwain a gwau taith bywyd Naiomi a Ruth ar ei gilydd ac nawr roedd Duw yn dechrau gwau trydydd cainc y stori i mewn sef Boas.
-
Diolch i Boas ... ac i Dduw
-
Rydym ni'n deall wedyn fod Ruth wedi dychwelyd adre at Naiomi wedi hel llwyth o fwyd. A Naiomi yn gofyn i Ruth:
-
“Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot ti!” A dyma Ruth yn esbonio lle roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai. (Ad. 2:19)
-
Ac yna Naiomi yn mynd ymlaen i ddweud:
-
“Bendith yr ARGLWYDD arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.” (Ad. 2:20)
-
Mae'n debyg fod yna rhywfaint o amwysedd yn yr Hebraeg gwreiddiol ynglŷn a phwy yn union mae Naiomi yn siarad amdano yn yr hanner yr adnod. Ydy hi'n siarad am garedigrwydd Boas? Neu garedigrwydd Duw? Ac ar ryw wedd mae yna ateb hawdd – sef y ddau!
-
Ie, Duw sydd tu ôl i bob daioni a phob bendith – ond mewn hanes a bywyd mae'n defnyddio pobl i fendithio pobl eraill. Mae gan Dduw weision yn y byd. Mae Duw – drosodd a throsodd – yn dangos ei gariad yn y byd drwy fywydau a gweithredoedd rheiny sydd wedi ei greu ar ei lun a'i ddelw. Sef, ie Boas, ond hefyd chi a fi.
-
Clo
-
Felly yn y bennod yma – mae stori newydd ym mywyd Naiomi a Ruth yn dechrau cael ei hadrodd. Dydyn nhw ddim yn gorfod gadael i'w gorffennol fel ffoaduriaid, gweddwon a tlodion eu diffinio nhw. Dydy rhygnu byw ar loffion y cae ddim yn gorfod nodweddu eu bywyd o hyn allan chwaith. Mae Duw – trwy Boas – wedi siarad gobaith mewn i'w bywyd eto.
-
Ac mae Duw yn rhoi gwerth ac urddas yn ôl iddyn nhw. Ac mae hon yn stori all fod yn wir i ni ar sawl lefel. Ac mae yna alwad i ni – fel unigolion ac fel eglwys – i fod yn Boas. Ddim jest yn gwarchod a darparu i'r tlawd mewn cymdeithas – ond drwy siarad efengyl Duw mewn i fywydau pobl – adfer eu hurddas hefyd.
-
Er mwyn ei enw – Amen.